Rydym hefyd yn mwynhau gweithio ag ystod eang o fusnesau annibynnol, o westai gwledig moethus i westai ‘boutique' mewn dinasoedd. Ninnau hefyd yw Partner Golchi Dillad Dewisol Welsh Rarebits, grŵp o westai moethus yng Nghymru, llawer ohonynt wedi'u cyflenwi gennym ers blynyddoedd.
A ninnau wedi’n lleoli mewn pedair canolfan strategol yng Nghaerdydd, Leeds, Llundain a Gogledd Cymru, rydym yn arbenigo mewn cyflenwi gwestai yn y farchnad gwestai corfforaethol 4 seren gan fwyaf yn ogystal â llawer o’r grwpiau gwestai sydd ar gael ar draws y wlad yn y sector gwestai rhad, sector sy’n prysur dyfu.
Rydym hefyd yn mwynhau gweithio ag ystod eang o fusnesau annibynnol, o westai gwledig moethus i westai ‘boutique' mewn dinasoedd. Ninnau hefyd yw Partner Golchi Dillad Dewisol Welsh Rarebits, grŵp o westai moethus yng Nghymru, llawer ohonynt wedi'u cyflenwi gennym ers blynyddoedd.
Trwy ein fformiwla lwyddiannus o ddefnyddio cyfleusterau cynhyrchu blaengar a’n ffocws pendant ar gyflenwi'r farchnad gwestai yn unig, rydych yn sicr o sylwi ein bod yn darparu gwerth am arian a gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid.
Londri Afonwen yw’r unig gwmni yn ei sector sy’n gwasanaethu Cymru gyfan, Gogledd Orllewin Lloegr, Gorllewin Canoldir Lloegr, De Orllewin Lloegr, Arfordir y De ac ar hyd coridor yr M4 i farchnad Llundain a'r De Ddwyrain.
Trwy ein chwaer-gwmni Whiteriver Laundry sy’n gwasanaethu Swydd Efrog a Gogledd Ddwyrain Lloegr, a'n cysylltiad â nifer o gwmnïau londri blaenllaw ar draws y Deyrnas Unedig, gallwn gynnig gwasanaeth i'r rhan fwyaf o'r wlad bron. Lle bynnag yr ydych wedi'ch lleoli, byddem yn falch iawn o drafod eich gofynion yn fanylach.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych!